top of page

Have Your Say on the Future of Healthcare in South-East Wales

11 minutes ago
2 min read

Health boards across south-east Wales are inviting local people to share their views on the future of healthcare services across the region.


Aneurin Bevan University Health Board, Cardiff and Vale University Health Board and Cwm Taf Morgannwg University Health Board have launched a new public engagement exercise to hear from patients, carers, families, NHS staff and local communities.


Why are the Health Boards asking for your views?


The NHS is facing significant challenges, as well as opportunities to work differently and improve the way care is delivered.


By planning and delivering some services together, health boards believe they can make better use of NHS staff, specialist skills, facilities and technology – helping people to access the right care, in the right place, at the right time.


Regional working does not mean replacing local healthcare services. Instead, it can allow specialist expertise, equipment and capacity to be shared across south-east Wales where this could provide the greatest benefit for patients.


Have your say


Residents across south-east Wales are encouraged to take part in a short survey and share their experiences, views and priorities for healthcare services.


Every response will help the health boards build a clearer picture of what matters most to people living in south-east Wales and will help inform future planning for health services across the region.


Find out more and complete the survey:



Dweud Eich Dweud am Ddyfodol Gofal Iechyd yn Ne-ddwyrain Cymru


Mae byrddau iechyd ar draws de-ddwyrain Cymru yn gwahodd pobl leol i rannu eu barn am ddyfodol gwasanaethau gofal iechyd ar draws y rhanbarth.


Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi lansio ymarfer ymgysylltu cyhoeddus newydd i glywed gan gleifion, gofalwyr, teuluoedd, staff y GIG a chymunedau lleol.


Pam mae'r Byrddau Iechyd yn gofyn am eich barn?


Mae'r GIG yn wynebu heriau sylweddol, yn ogystal â chyfleoedd i weithio'n wahanol a gwella'r ffordd y mae gofal yn cael ei ddarparu.


Drwy gynllunio a darparu rhai gwasanaethau gyda'i gilydd, mae'r byrddau iechyd yn credu y gallant wneud gwell defnydd o staff y GIG, sgiliau arbenigol, cyfleusterau a thechnoleg – gan helpu pobl i gael mynediad at y gofal cywir, yn y lle cywir, ar yr amser cywir.


Nid yw gweithio rhanbarthol yn golygu disodli gwasanaethau gofal iechyd lleol. Yn hytrach, gall ganiatáu i arbenigedd, offer a chapasiti arbenigol gael eu rhannu ar draws de-ddwyrain Cymru lle gallai hyn ddarparu'r budd mwyaf i gleifion.


Dweud eich dweud


Anogir trigolion ar draws de-ddwyrain Cymru i gymryd rhan mewn arolwg byr a rhannu eu profiadau, eu barn a'u blaenoriaethau ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd.


Bydd pob ymateb yn helpu'r byrddau iechyd i greu darlun cliriach o'r hyn sydd bwysicaf i bobl sy'n byw yn ne-ddwyrain Cymru a bydd yn helpu i lywio'r gwaith o gynllunio gwasanaethau iechyd ar draws y rhanbarth yn y dyfodol.


Darganfyddwch fwy a chwblhewch yr arolwg:


[Gweithio Gyda'n Gilydd yn Ne-ddwyrain Cymru – Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro](https://bipcaf.gig.cymru/amdanom-ni1/ymgysylltu-ymgyngh

ABOUT US

Sully and Lavernock Community Council is keen to make a difference to the community.  Please get in touch to share your ideas.

ADDRESS

Sully and Lavernock Community Council

Jubilee Hall

Smithies Avenue

Sully, Vale of Glamorgan

CF64 5SS

SUBSCRIBE FOR EMAILS

© 2018  Sully and Lavenock Community Council. Design by - Bamboo Web Design

bottom of page