The Council has today launched a Vale-wide survey exercise - Let’s Talk About Living in the Vale.
The survey gives residents the chance to tell us about their experiences of living in the Vale, which public services are important to them, why, and how all of these things could be improved.
This survey is different to other Vale-wide surveys that the Council has run in the past. We are not asking simply how satisfied people are with Council services. Instead, we are trying to understand what life is like for people living in the Vale and how public services affect this.
We are taking this approach so we can develop our services in a way that means they will improve people’s quality of life, and wherever possible address the issues that matter to those who live in the Vale.
The survey also asks about people’s experience of trying to influence decisions in their community. This is to help us in our work to give as many people as possible the opportunity to participate and become involved in the decision-making process, shape what we do and how we do it.
The survey is being run on behalf of the Council by independent researchers at Data Cymru. The Data Cymru team will also be leading on the initial analysis of the results.
We are trying to survey as many people as possible to hear what they think. The survey will be promoted extensively online, through our many professional and community networks, via the local press, and at key locations and events across the Vale.
Wherever possible we are encouraging residents to respond to the exercise online. However, a printed questionnaire is also available. Residents will also be able to share their views in person at a number of council venues, or by calling Contact One Vale.
The survey form will capture demographic data from respondents and in their analysis Data Cymru will apply a statistical weighting to ensure that the views of all communities in the Vale are equally represented.
Once the survey exercise has been completed there will be a second phase to Let’s Talk About Life in the Vale focusing specifically on seldom heard groups such as adults with disabilities and those living in poverty.
For the exercise to be a success we need as many residents as possible to respond. As well as responding to the survey themselves town and community councillors can help us achieve this by supporting our promotional campaign.
Attached to this email is a toolkit of promotional materials that you can use on social media and that can be printed and handed out or displayed in public spaces. We would be grateful if you could circulate this to your members and ask them to consider sharing the information with the wider community.
If you would like to know any more about Let’s Talk About Life in the Vale or would like any more support to help you promote it to residents then please get in touch with Rob Jones, Communications Manager, or Hannah Rapa, Public Participation and Campaign Delivery Lead.
Kind regards,
Cllr Ruba Sivagnanam
Cabinet Member for Community Engagement, Equalities and Regulatory Services
Annwyl Gynghorwyr,
Heddiw mae'r Cyngor wedi lansio ymarferiad arolwg ledled y Fro - mae’n Amser Siarad am Fyw yn y Fro.
Mae'r arolwg yn rhoi cyfle i drigolion ddweud wrthym am eu profiadau o fyw yn y Fro, pa wasanaethau cyhoeddus sy'n bwysig iddyn nhw, pam, a sut y gellid gwella'r holl bethau hyn.
Mae'r arolwg hwn yn wahanol i arolygon eraill ledled y Fro y mae'r Cyngor wedi'u cynnal yn y gorffennol. Nid ydym yn gofyn yn unig pa mor fodlon yw pobl gyda gwasanaethau'r Cyngor. Yn hytrach, rydym yn ceisio deall sut beth yw bywyd i bobl sy'n byw yn y Fro a sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn effeithio ar hyn.
Rydym yn mabwysiadu’r ymagwedd yma fel y gallwn ddatblygu ein gwasanaethau mewn ffordd sy'n golygu y byddant yn gwella ansawdd bywyd pobl, a lle bynnag y bo'n bosibl yn mynd i'r afael â'r materion sy'n bwysig i'r rhai sy'n byw yn y Fro.
Mae'r arolwg hefyd yn gofyn am brofiad pobl o geisio dylanwadu ar benderfyniadau yn eu cymuned. Mae ein strategaeth yn ceisio rhoi cyfle i gynifer o randdeiliaid â phosibl gymryd rhan a chyfranogi yn y broses o wneud penderfyniadau, i siapio’r hyn a wnawn a sut rydym yn ei wneud.
Mae'r arolwg yn cael ei gynnal ar ran y Cyngor gan ymchwilwyr annibynnol yn Data Cymru. Bydd tîm Data Cymru hefyd yn arwain ar y dadansoddiad cychwynnol o'r canlyniadau.
Rydym yn ceisio cynnal arolwg gyda chymaint o bobl â phosibl i glywed eu barn. Bydd yr arolwg yn cael ei hyrwyddo'n helaeth ar-lein, trwy ein rhwydweithiau proffesiynol a chymunedol niferus, drwy'r wasg leol, ac mewn lleoliadau a digwyddiadau allweddol ledled y Fro.
Lle bynnag y bo'n bosibl, rydym yn annog preswylwyr i ymateb i'r ymarferiad ar-lein. Fodd bynnag, mae holiadur wedi ei argraffu hefyd ar gael. Bydd preswylwyr hefyd yn gallu rhannu eu barn yn bersonol mewn nifer o leoliadau’r cyngor, neu drwy ffonio Cyswllt Un Fro.
Bydd y ffurflen arolwg yn casglu data demograffig gan ymatebwyr ac yn eu dadansoddiad bydd Data Cymru yn defnyddio pwysoliad ystadegol i sicrhau bod barn pob cymuned yn y Fro yn cael ei chynrychioli'n gyfartal.
Unwaith y bydd ymarferiad yr arolwg wedi'i gwblhau, bydd ail gam i Amser Siarad am Fywyd yn y Fro gan ganolbwyntio'n benodol ar grwpiau nas clywir eu lleisiau yn aml, fel oedolion ag anableddau a'r rhai sy'n byw mewn tlodi.
Er mwyn i'r ymarferiad fod yn llwyddiant mae angen cymaint o drigolion â phosibl i ymateb. Yn ogystal ag ymateb i'r arolwg eu hunain, gall cynghorwyr tref a chymuned ein helpu i gyflawni hyn drwy gefnogi ein hymgyrch hyrwyddo.
Ynghlwm wrth yr e-bost hwn mae pecyn cymorth o ddeunyddiau hyrwyddo y gallwch eu defnyddio ar gyfryngau cymdeithasol a gellir eu hargraffu a'u dosbarthu neu eu harddangos mewn mannau cyhoeddus. Byddem yn ddiolchgar pe gallech ei ddosbarthu i'ch aelodau a gofyn iddynt ystyried rhannu'r wybodaeth gyda'r gymuned ehangach.
Os hoffech wybod mwy am Amser Siarad am Fywyd yn y Fro neu os hoffech gael rhagor o gymorth i'ch helpu i'w hyrwyddo i breswylwyr, cysylltwch â Rob Jones, Rheolwr Cyfathrebu, neu Hannah Rapa, Arweinydd Cyfranogiad y Cyhoedd a Chyflawni Ymgyrchoedd.
Cofion cynnes,
Y Cynghorydd Ruba Sivagnanam
Aelod Cabinet dros Ymgysylltu â'r Gymuned, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoliadol
Comments