top of page
Search

Public Services Board Well-being Assessment Survey by The Vale of Glamorgan Council

The Vale Public Services Board is undertaking a range of engagement activities over the next few months to inform a Well-being Assessment which will be published in May 2022. The assessment is an important part of the PSB’s work as it covers issues relating to social, economic, cultural and environmental well-being. Through gaining an understanding of these issues in the Vale, the assessment will inform the development of a Well-being Plan which must be published in 2023 in accordance with the Well-being of Future Generations Act. The Plan sets out how the PSB will work to improve the well-being for our communities and brings the work of public and third sector organisations together to focus on making a difference.


As part of this work we have developed a survey and we are keen to hear from as many members of the public as possible about life in the Vale. Further engagement will be undertaken through the year to inform the assessment and shape our priorities but we would appreciate it if you could promote this survey through your Vale based networks and contacts, including staff who live in the Vale and encourage them to complete the survey. We want as many Vale residents as possible to complete the survey which should only take about 15 minutes and all questions are optional.


The survey can be accessed in English and Welsh on the PSB website https://www.valepsb.wales/en/Home.aspx


The survey closes on the 19th September 2021.


For more information about the Vale Public Services Board, its members and priorities please take a look at the ValePSB website


Councillor Neil Moore

Leader of the Vale of Glamorgan Council and Chair of the Vale Public Services Board


Annwyl Gydweithwyr,


Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus y Fro yn ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau ymgysylltu dros y misoedd nesaf i lywio Asesiad Llesiant a gyhoeddir ym mis Mai 2022. Mae'r asesiad yn rhan bwysig o waith y BGC gan ei fod yn ymdrin â materion sy'n ymwneud â lles cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol. Drwy gael dealltwriaeth o'r materion hyn yn y Fro, bydd yr asesiad yn llywio'r gwaith o ddatblygu Cynllun Llesiant y bydd yn rhaid ei gyhoeddi yn 2023 yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae'r Cynllun yn nodi sut y bydd y BGC yn gweithio i wella lles ein cymunedau ac yn dod â gwaith sefydliadau'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector at ei gilydd i ganolbwyntio ar wneud gwahaniaeth.


Yn rhan o'r gwaith hwn rydym wedi datblygu arolwg ac rydym yn awyddus i glywed gan gynifer o aelodau o'r cyhoedd â phosibl am fywyd yn y Fro. Bydd ymgysylltu pellach yn cael ei gynnal drwy gydol y flwyddyn i lywio'r asesiad a llunio ein blaenoriaethau ond byddem yn gwerthfawrogi pe gallech hyrwyddo'r arolwg hwn drwy eich rhwydweithiau a'ch cysylltiadau yn y Fro, gan gynnwys staff sy'n byw yn y Fro a'u hannog i gwblhau'r arolwg. Rydym am i gynifer o drigolion y Fro â phosibl gwblhau'r arolwg a ddylai gymryd tua 15 munud yn unig ac mae pob cwestiwn yn ddewisol.


Gallwch fynd i’r arolwg https://www.valepsb.wales/cy/Home.aspx

Rwyf hefyd wedi atodi poster gyda chod QR a rhif ffôn y gall pobl eu ffonio i gwblhau'r arolwg dros y ffôn a byddai'n wych pe bai'r rhain yn cael eu gosod mewn lleoliadau perthnasol ac os gallwch chi rannu'r manylion trwy unrhyw sianeli cyfryngau cymdeithasol yr ydych chi'n teimlo bydd yn briodol.


Mae'r arolwg yn cau ar 19 Medi 2021.


Gwerthfawrogwn eich help i geisio cyrraedd cynifer o bobl â phosibl gyda'r arolwg hwn ac os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am yr Asesiad Llesiant a sut y gall eich sefydliad ein cynorthwyo i ymgysylltu â thrigolion lleol a helpu i lunio gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, anfonwch e-bost at y tîm yn ValePSB@valeofglamorgan.gov.uk.


I gael rhagor o wybodaeth am Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus y Fro, ei aelodau a'i flaenoriaethau, edrychwch ar Wefan BGCyfro


Diolch


Y Cynghorydd Neil Moore

Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg a Chadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg:


10 views

Comments


bottom of page