top of page
Search

Consultation - Regulations to establish Corporate Joint Committees/Ymgynghori – Rheoliadau ar gyfer

Dear Local Government Colleagues / Stakeholders

The Minister for Housing and Local Government and Welsh Government officials have engaged with a range of stakeholders over the last year and a half on the development of proposals to establish Corporate Joint Committees (CJCs) to exercise certain local authority functions on a collaborative basis, as provided for in the Local Government and Elections (Wales) Bill currently before the Senedd.

Today, the Minister for Housing and Local Government is launching a formal consultation on the draft regulations which will establish four regional CJCs across Wales.

The intention is for them to exercise functions relating to strategic development planning and regional transport planning; they will also be able to do things to promote the economic well-being of their areas.

We wish to seek your views on the regulations which will establish these CJCs - setting out their area, the core governance and constitutional arrangements, finance and funding, provisions for staffing and workforce, and the functions which they will exercise.

The consultation paper and supporting documentation can be accessed via the Welsh Government website: https://gov.wales/regulations-establish-corporate-joint-committees

The closing date for response is Monday 4 January 2021. We look forward to receiving your responses to this consultation and to continuing to work in partnership to take this forward.

We would be grateful if you could highlight the consultation more widely by including a link to the consultation on your website.

If you have any initial queries please email: LGPartnerships@gov.wales


 

Annwyl Gydweithwyr mewn Llywodraeth Leol / Randdeiliaid

Mae swyddogion y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi ymgysylltu ag amrywiol randdeiliaid dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf ar ddatblygu cynigion ar gyfer sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig i arfer rhai o swyddogaethau awdurdodau lleol ar sail gydweithredol, fel y darperir ar ei gyfer ym Mil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) sydd gerbron y Senedd ar hyn o bryd.

Heddiw, mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn lansio ymgynghoriad ffurfiol ar y rheoliadau drafft a fydd yn sefydlu pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig rhanbarthol yng Nghymru.

Bwriedir i’r Cyd-bwyllgorau arfer y swyddogaethau hynny sy’n ymwneud â chynlluniau datblygu strategol a chynllunio trafnidiaeth rhanbarthol. Byddant hefyd yn gallu gweithredu er mwyn hybu llesiant economaidd eu hardaloedd.

Hoffem ofyn am eich barn ar y rheoliadau a fydd yn sefydlu'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig hyn – gan nodi eu hardal, y trefniadau llywodraethu craidd a chyfansoddiadol, cyllid, darpariaethau ar gyfer staffio a'r gweithlu, a'r swyddogaethau y byddant yn eu harfer.

Gallwch weld y papur ymgynghori a’r ddogfennaeth gysylltiedig ar wefan Llywodraeth Cymru: https://gov.wales/regulations-establish-corporate-joint-committees

Dydd Llun 4 Ionawr 2021 yw’r dyddiad cau ar gyfer ymateb. Edrychwn ymlaen at dderbyn eich ymatebion i’r ymgynghoriad hwn ac at barhau i gydweithio mewn partneriaeth â chi i ddatblygu’r agenda hon.

Byddem yn ddiolchgar pe gallech dynnu sylw at yr ymgynghoriad yn ehangach drwy gynnwys dolen i'r ymgynghoriad ar eich gwefan.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau cychwynnol, anfonwch e-bost i: LGPartnerships@llyw.cymru

10 views

Comments


bottom of page